25 Medi 2022 – 10 Ionawr 2023

  • 20220915 150558
  • 20220915 150546

Yn 2022 mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed. Comisiynwyd yr artist Dan Llewellyn Hall i guradu’r celfyddydau gweledol mewn ymateb i’r arfordir. Mae ei driawd personol o baentiadau, sy’n cael eu harddangos yn The Turner House, yn archwilio darn arfordirol De Cymru lle bu hefyd yn cydweithio â Bardd Cenedlaethol Cymru, Hanan Issa.

Ganed Dan Llywelyn Hall yng Nghaerdydd yn 1980 ac fe’i magwyd yn ne Cymru. Symudodd i Lundain i astudio ym Mhrifysgol San Steffan, gan raddio yn 2003.

Ar ôl astudio enillodd wobr Artist Ifanc y Flwyddyn y Sunday Times/Singer Friedlander am ei baentiad ‘Ship Hotel and Splash’. Sefydlodd cyfres o arddangosfeydd grŵp ac unigol Dan fel peintiwr yn gweithio’n uniongyrchol o’r dirwedd.

Mae gwaith Dan wedi cael ei arddangos yn helaeth ledled y DU mewn arddangosfeydd unigol a grŵp mewn lleoliadau megis Oriel Saatchi, yr Oriel Bortreadau Genedlaethol, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Castell Windsor, MoMA Cymru ac eraill.

www.danlhall.com

wcp 03
wcp 02