Hanes

Ganed James Pyke Thompson (1846-1897) yn Bridgewater ac fe’i haddysgwyd yn Weston Super Mare, Brighton a Pharis. Pan yn 18 oed ymunodd â busnes y teulu, y melinwyr blawd, Spiller & Co. o Gaerdydd. Roedd James yn un o Gyfarwyddwyr y cwmni erbyn 1881 ac yn ei reoli o 1890 nes iddo ymddeol yn 1892.

Erbyn 1881 roedd James wedi dod yn ddigon cyfoethog i adeiladu tŷ mawr ym Mhenarth a chreu casgliad amrywiol o baentiadau, printiau a tsieina cain. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach penderfynodd adeiladu oriel gelf fechan yng nghornel ei ardd i arddangos rhan fechan o’r casgliad hwn.

Agorodd Turner House i’r cyhoedd ar 27 Mehefin 1888. Fe’i henwyd ar ôl yr artist mawr o Loegr J.M.W. Turner, yr oedd Pyke Thompson yn ei edmygu’n fawr. Y pensaer oedd Edward Seward (1853-1924), a gynlluniodd sawl adeilad o bwys yng Nghaerdydd – Ysbyty Brenhinol Caerdydd, yr Hen Lyfrgell a’r Gyfnewidfa Lo Yn wreiddiol nid oedd yr adeilad ond yn cynnwys oriel ar y llawr cyntaf, gyda cheidwad yn byw ar y llawr gwaelod.

Roedd Pyke Thompson eisiau rhannu ei gasgliad celf gan ei fod yn credu fod edrych ar gelf yn gwella ein llesiant. Roedd yn teimlo hefyd y dylai pobl fynd i orielau ac amgueddfeydd ar y Sul,

ar adeg pan mai eglwysi a chapeli yn unig oedd ar agor. Felly trefnodd Pyke Thompson yn fwriadol y byddai Turner House yn agor bob dydd Sul.

Roedd Pyke Thompson wedi gobeithio rhoi’r oriel i Benarth ar ôl ei farwolaeth ond methodd y cynllun hwnnw ac yn 1899 sefydlodd ei frodyr ymddiriedolaeth  ar gyfer yr adeilad a’i gasgliad.

Rhedodd ymddiriedolwyr Turner House yr oriel tan 1921, pan sylweddolwyd fod oed yr aelodau a chostau cynyddol gofalu amdani yn galw am drefniant mwy parhaol. Felly, ar 17 Hydref 1921 trosglwyddodd yr ymddiriedolwyr gwreiddiol yr adeilad a’i gasgliad i Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a nhw fu’r ymddiriedolwyr fyth ers hynny.

Bu Turner House yn ganolfan i gelf a diwylliant erioed, ac eithrio deng mlynedd yn ystod ac wedi’r Ail Ryfel Byd. Yn 1950 ail-fodelodd yr Amgueddfa Genedlaethol yr adeilad, gan greu’r oriel llawr-gwaelod sydd gennym heddiw a’r llecyn arddangos ar y llawr cyntaf.

Am bron i 20 mlynedd roedd yr adeilad yn gartref i Ffotogallery, yr asiantaeth datblygu cenedlaethol ar gyfer ffotograffiaeth yng Nghymru. Heddiw, mae Cyngor Tref Penarth yn rheoli Turner House yn ganolfan gelfyddydol a chreadigol ar gyfer cymunedau Penarth a thu hwnt.

Photograph of James Pyke Thompson (1846-1897)

Messers Spiller’s & Co Steam Flour Mills (ca. 1880) [Pen and Ink]  Amgueddfa Cymru, Cardiff.

Illustration from the opening of Turner House (ca.1888) ) ‘The Graphic’

Rossetti, D.G. (1861) Fair Rosamund, [Oil on Canvas] Pyke Thompson Collection, Amgueddfa Cymru, Cardiff.

National Museum Wales (1922) Heads of Departments [Photograph] Amgueddfa Cymru, Cardiff

Turner, J.M.W (ca. 1797) Transept of Ewenny Priory, Glamorganshire [Watercolour on Paper] Pyke Thompson Collection, Amgueddfa Cymru, Cardiff.

Turner, J.M.W (n.d.) Ruined Farmhouse [Watercolour on Paper] Pyke Thompson Collection, Amgueddfa Cymru, Cardiff.

Turner, J.M.W (n.d.) The Bishop’s Palace, Biebrich [Watercolour on Paper] Pyke Thompson Collection, Amgueddfa Cymru, Cardiff.