31 Mawrth – 1 Mai 2022.

  • vogue
  • img 0709
  • 2
  • sentinel
  • img 2625
  • img 7752
  • shirley anne owen yr hen goedwig 4 mixed media on watercolour paper 73 x 50cms

Nod yr arddangosfa hon gan Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol Cymru yw annog a hyrwyddo crefft dyfrlliw yn ei hamryfal ffurfiau.

Sefydlwyd Cymdeithas Dyfrlliw Cymru ym 1959 gan chwe artist yn gweithio yng Nghaerdydd a’r cyffiniau. Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf yn 1959 yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd.

Cenhadaeth y gymdeithas yw arddangos, annog, hyrwyddo a datblygu dyfrlliwiau ar bapur ac amlygu posibiliadau dyfrlliw i gynulleidfa eang.

I ddechrau, nod y Gymdeithas oedd cynnal 2 arddangosfa y flwyddyn yng Nghymru. Yn y blynyddoedd diwethaf bu arddangosfeydd dramor mewn cydweithrediad â chymdeithasau tebyg dramor. Mae arddangosfeydd rhyngwladol diweddar yn cynnwys Reykjavík yng Ngwlad yr Iâ mewn cydweithrediad â’r Gymdeithas Dyfrlliw Nordig gydag arddangosfa yn ôl yn y Gaer yn Aberhonddu ar ei newydd wedd. Yn yr un modd, ailadroddwyd arddangosfa yn Aberglasne gyda’r gymdeithas dyfrlliw Eidalaidd The Associazione Italiana Acquerellisti (AIA) yn Chiavari (Genova), yr Eidal.

Yn 2007 cytunodd Tywysog Cymru, artist dyfrlliw brwd, i ddod yn Noddwr y Gymdeithas ac mae wedi arddangos ei waith gyda ni. Trwy ganiatâd y Frenhines daeth y gymdeithas yn Gymdeithas Frenhinol yn 2013.

Mae’r Gymdeithas wedi tyfu i tua 40 o artistiaid proffesiynol sy’n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Mae aelodaeth o’r Gymdeithas trwy etholiad. Yn unol â hynny, mae’r Gymdeithas yn cynnal safon uchel o waith ac yn denu artistiaid newydd a chyffrous i ymuno â ni.

The Turner House
29791781 875031902669319 2287483020455706624 n